Job 33

Elihw yn ceryddu Job

1Felly Job, gwrando beth sydd gen i i'w ddweud.
Gwranda'n ofalus ar fy ngeiriau i.
2Edrych, dw i am agor fy ngheg,
a gadael i'm tafod ddweud ei dweud.
3Dw i'n mynd i siarad yn onest,
a dweud fy marn yn gwbl agored.
4Ysbryd Duw luniodd fi;
anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n fy nghadw i'n fyw.
5Ateb fi, os wyt ti'n gallu;
gwna dy safiad, a dadlau yn fy erbyn i.
6Dŷn ni'n dau yr un fath yng ngolwg Duw;
ces innau hefyd fy ngwneud o'r pridd.
7Felly does dim byd i ti ei ofni;
fydda i ddim yn llawdrwm arnat ti.
8Dyma wyt ti wedi ei ddweud,
(clywais dy eiriau di'n glir):
9‘Dw i'n ddieuog, heb wneud dim o'i le;
dw i'n lân, a heb bechu.
10Ond mae Duw wedi troi yn fy erbyn;
mae'n fy nhrin i fel gelyn.
11Mae wedi rhoi fy nhraed mewn cyffion,
ac yn gwylio popeth dw i'n ei wneud.’
12Dwyt ti ddim yn iawn. A gwna i ddweud pam:
Mae Duw yn fwy na dyn.
13Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn?
Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn?
14Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro,
ac mewn ffordd wahanol dro arall –
ond er hynny dydy pobl ddim yn deall.
15Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos,
pan mae pobl yn cysgu'n drwm;
pan maen nhw'n gorwedd ar eu gwlâu.
16Mae e'n gwneud i bobl wrando –
yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
17i beidio gwneud rhywbeth,
a'u stopio nhw rhag bod mor falch.
18Mae'n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,
rhag iddo groesi afon marwolaeth.
19Mae'n disgyblu un sy'n sâl yn ei wely
a chryndod di-baid drwy ei esgyrn.
20Mae bwyd yn codi cyfog arno;
does ganddo awydd dim byd blasus.
21Mae wedi colli cymaint o bwysau,
nes bod ei esgyrn i gyd yn y golwg.
22Mae'n agos iawn at y bedd,
bron â'i gipio gan negeswyr marwolaeth.
23Ond os daw angel at ei ochr
(dim ond un o'i blaid, un o blith y mil)
i ddadlau ei hawl drosto –
24yna bydd Duw yn drugarog wrtho.
‘Achubwch e rhag mynd i lawr i'r bedd;
dw i wedi cael y pris i'w ollwng yn rhydd.’
25Yna bydd ei groen yn iach fel pan oedd yn ifanc;
bydd ei egni yn ôl fel yn nyddiau ieuenctid!
26Bydd yn gweddïo, a bydd Duw'n gwrando;
bydd yn gweiddi'n llawen wrth fynd i'w bresenoldeb,
a bydd Duw yn ei adfer i berthynas iawn ag e'i hun.
27Bydd yn canu o flaen pobl,
‘Pechais, a gwneud y peth anghywir,
ond ches i mo'r gosb o'n i'n ei haeddu.
28Mae e wedi fy achub o afael y bedd;
dw i'n dal yn fyw, ac yn gweld y golau!’
29Yn wir, mae Duw yn gwneud hyn
drosodd a throsodd:
30achub bywyd o bwll y bedd,
iddo gael gweld goleuni bywyd.
31Edrych, Job, gwranda arna i;
gwrando'n dawel i mi gael siarad.
32Os oes gen ti rywbeth i'w ddweud, ateb fi;
dywed, achos dw i eisiau dangos dy fod ti'n iawn.
33Ond os oes gen ti ddim i'w ddweud, gwranda arna i;
gwrando'n dawel, ac fe ddysga i beth sy'n ddoeth i ti.”
Copyright information for CYM